Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 30 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 12.10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Keith Davies AC Dafydd Elis-Thomas AC Rhun ap Iorwerth AC Julie James AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Claire Morris (Ail Clerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC a Byron Davies AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2 Ymchwiliad i Dwristiaeth - trafod yr opsiynau ar gyfer ymweliad
2.1.Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon yn breifat a chytunwyd i gynnal ymweliadau i dri lleoliad ledled Cymru ar 26 Mehefin 2014.
3 Ymchwiliad Dilynol i STEM - papur briffio ar gyfer y gwe-sgyrsiau
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.
4 Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach
4.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor: Mick Antoniw AC, Dafydd Elis-Thomas AC, William Graham AC ac Eluned Parrott AC gymryd rhan yn y gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach. Er y cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes o law.
5 Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM
5.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor: Keith Davies AC, Rhun ap Iorwerth AC, Julie James AC a Joyce Watson AC gymryd rhan yn y gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM. Er y cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes o law.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:
EBC(4)-11-14 (p.1) - Perfformiad Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru
EBC(4)-11-14 (p.2) - Gwybodaeth am gyfranogiad Cymru yn y rhaglen MEDIA 2007
EBC(4)-11-14 (p.3) - Nodyn ar waith Tasglu'r Gweinidog ar gyfer Trafnidiaeth Gogledd Cymru
EBC(4)-11-14 (p.4) - Gwybodaeth ychwanegol am hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad
EBC(4)-11-14 (p.5) - Adroddiad cryno ar y prif bwyntiau sy'n ymwneud â cham cyntaf yr Arolwg Hydredol o Ardaloedd Menter
6.2 O ran Papur 3 o'r papurau i'w nodi, cytunodd y Pwyllgor i dderbyn rhagor o dystiolaeth lafar gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch trydaneiddio’r rheilffyrdd.